LewisHEULWENLEWIS - HEULWEN. Awst 25, 2009, Yn dawel yn Ysbyty Gwynedd, Bangor ar ol cystydd blin a ddioddefodd yn ddewr, o 13 Stryd Ceunant, Llanberis yn 72 mlwydd oed. Priod annwyl Goronwy; mam arbennig Olwen a Maldwyn a'i briod Emma (a Nanw); nain garedig a gofalus Katie, Gareth, Laura a Daniel; chwaer a chwaer yng nghyfraith hoff. Colled fawr i'w theulu a'i ffrindiau oll. Angladd cyhoeddus ddydd Mercher, Medi 2, 2009 am 10.00 o'r gloch y bore yn Eglwys Sant Padarn, Llanberis gan ddilyn yn Amlosgfa Bangor am 11.00 o'r gloch. Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at Meddygfa Llanberis. Ymholiadau pellach i Dylan Griffith, Cyfarwyddwr Angladdau, Tros y Waen, Penisarwaun. Ffon Llanberis 01286 871 833.
Keep me informed of updates